Pwy ydym ni?
Felly pwy yw Eglwys Efengylaidd Gymraeg Caerdydd? Yn gyntaf, pobl ydym ni! Pan mae’r Beibl yn sôn am Eglwys, cyfeirio at grŵp o bobl mae e, nid at adeilad. Rydyn ni’n gasgliad o bobl o bob oed – yn deuluoedd, cyplau a phobl sengl. Y rheswm rydyn ni’n dod at ein gilydd yw er mwyn rhannu’r newyddion da am Iesu Grist, i addoli Duw gyda’n gilydd, ac i annog ein gilydd yn ein ffydd.
Ond rydyn ni hefyd yn eglwys efengylaidd. Yn syml mae hyn yn golygu ein bod ni’n dibynnu’n llwyr ar awdurdod y Beibl, fel gair ysbrydoledig Duw. Mae’r Beibl yn dysgu fod Iesu Grist wedi marw ar y groes er mwyn derbyn y gosb rydyn ni’n ei haeddu am y ffordd rydyn ni wedi troi i ffwrdd oddi wrth Dduw. Mae Iesu yn galw ar bawb i ddod ato fe, i droi cefn ar eu hen ffordd o fyw, i gredu ynddo fe a’i ddilyn. Dyma’r newyddion pwysicaf yn y byd ac felly rydyn ni’n chwilio am bob cyfle posib er mwyn dweud wrth eraill amdano. I ddysgu mwy am ar hyn rydyn ni’n ei gredu, cliciwch yma.
Yn olaf rydyn ni’n eglwys Gymraeg, sy’n ceisio gwasanaethu pobl Caerdydd. Mae croeso cynnes i unrhyw un ymuno â ni yn ein cyfarfodydd. Cynhelir ein cyfarfodydd trwy gyfrwng y Gymraeg ond mae darpariaeth cyfieithu i’r Saesneg ar gael yn y ddau gyfarfod ar ddydd Sul. I ddarganfod mwy am ein cyfarfodydd, cliciwch yma.
Storiâu a thystiolaethau.
Tystiolaeth Morus
Wrth i mi gael fy magu yn y capel, doedd dim adeg yn fy mhlentyndod pan nad oeddwn i’n credu geiriau’r Beibl. Felly, pan oeddwn tua saith oed, dechreuais ofyn i Dduw fy ngwneud i’n un o’i bobl Ef – mwy na thebyg oherwydd mai dyna roeddwn i’n credu y dylwn i ei wneud. Ond wedi i mi dyfu ychydig yn hŷn, doeddwn i ddim wir yn sicr a oeddwn wedi dod yn Gristion ai peidio.
Yn Haf 2016, gosodwyd bocs yng nghefn y capel fel bod modd gofyn cwestiynau’n ddi-enw i’n gweinidog, Emyr, i’w hateb. Dyma’r cwestiwn a roddais i yn y bocs: ‘Sut ydych chi’n gallu gwybod a ydych chi’n Gristion ai peidio?’ Anghofiais am y cwestiwn wedyn, nes i mi fynd i’r gwersyll yn nes ymlaen yn yr haf hwnnw. John Aaron oedd yn pregethu yno ar bynciau fel ‘Mae unrhyw un yn gallu dod at Iesu’, ‘Beth yw ffydd?’ ac ‘Ydw i’n gallu cael maddeuant?’. Y Sul canlynol, testun Emyr oedd y cwestiwn a roddais yn y bocs, wrth iddo ffocysu ar Rhufeiniaid 10:9.
“Os cyffesi Iesu yn Arglwydd â’th enau, a chredu yn dy galon fod Duw wedi ei gyfodi ef oddi wrth y meirw, cei dy achub.”
Trwy gyfuniad o gyd-destun pregethau John Aaron ac ateb Emyr i’m cwestiwn, cefais sicrwydd fy mod i wir yn Gristion – wedi derbyn maddeuant a chael fy achub.
Tystiolaeth Fflur
Nid yw’n hawdd crynhoi fy llwybr at ddod yn Gristion, gan ei fod yn gyfuniad o lawer o ddigwyddiadau bach wedi eu pentyrru ynghyd. Rwy’n gallu gweld ôl gwaith Duw yn fy mywyd ers i mi fod yn ifanc iawn, gan i mi – fel y bechgyn – gael fy magu yn y capel ac mewn teulu Cristnogol.
Er imi amau ryw ychydig a oedd Duw wir yn bodoli pan oeddwn yn iau, roedd gweld y dystiolaeth glir o Greawdwr yn nhrefn byd natur yn gwrthsefyll hyn yn gadarn yn fy meddwl. Roeddwn yn credu yn y Beibl a’i ffeithiau hanesyddol: fy mhroblem i oedd derbyn Iesu fel Gwaredwr personol yn fy mywyd. Gweddïwn yn gyson ar Dduw i’m hachub, gan ofyn iddo hefyd ddangos rhyw arwydd o’r achubiaeth honno i mi.
Y broblem mewn gwirionedd oedd mai ffocysu arnaf i fy hun oeddwn i, fy nghyflwr fel pechadur a’m hagwedd fy hunan at Dduw. Roeddwn yn mynnu edrych am newid neu dystiolaeth ynof i fy hunan, gan gysylltu fy statws fel Cristion â’m teimladau neu fy meddylfryd ar y pryd.
Dim ond wedi i mi droi i edrych arno Ef, ar ei aberth Ef dros fy mhechodau ar y Groes, y cefais sicrwydd fod Iesu wedi fy achub.
Tystiolaeth Rhodri
Gan fy mod i wedi tyfu i fyny mewn cartref Cristnogol ac yn mynd i’r capel bob wythnos, mae’r Efengyl – sef y newyddion da am yr Arglwydd Iesu Grist – wedi bod yn rhan fawr o’m bywyd ers cyn i mi allu cofio. Er fy mod i’n ddiolchgar i Dduw am y fendith honno, mewn gwirionedd roeddwn i’n aml yn cymryd Duw yn ganiataol, ac yn trin ffydd bersonol yn yr Arglwydd Iesu Grist fel rhywbeth i feddwl amdano pan fyddwn i’n hŷn. Roeddwn i’n dal i fyw mewn gwrthryfel yn erbyn Duw, ac yn ceisio plesio fy hunan a’r bobl o’m cwmpas. Ond ar hyd fy mywyd, rydw i wedi teimlo bod Duw ar waith, yn siarad â mi trwy ei Air yn y Beibl, mewn gwersylloedd, cynadleddau ac yn y capel trwy ein gweinidog, Emyr.
Rwy’n methu rhoi dyddiad pendant ar pryd yn union y des i’n Gristion, ond rwy’n cofio cyfnodau hir o weddïo’n aml, pryd y byddwn yn gofyn i Dduw i faddau fy mhechodau, a hefyd i roi sicrwydd i mi fy mod i’n Gristion. Oedd, roedd cyfnodau pan oeddwn i’n teimlo’n bell oddi wrth Dduw, ond roedd Ef bob tro yn fy ngalw i’n ôl ato Ef; ac o ran sicrwydd, mae wedi bod yn gysur cofio fod Duw bob amser yn cadw ei addewidion, a ddim yn gwrthod y rhai sydd wedi credu a rhoi eu ffydd yn Iesu. Mae byw er mwyn Iesu, yng ngoleuni’r hyn a wnaeth Ef drosof fi ar y Groes, yn bwysicach i mi na dim byd arall erbyn hyn, ac rwy’n gweddio y bydd Duw yn fy nghynnal ac yn fy nerthu â’r Ysbryd Glân wrth i mi redeg ras y ffydd, gan gadw fy llygaid ar Iesu bob amser.